José Hernández

Bardd, newyddiadurwr, milwr, a gwleidydd o'r Ariannin oedd José Hernández (10 Tachwedd 183421 Hydref 1886). Ei gampwaith ydy ''Martín Fierro'', enghraifft nodweddiadol o lenyddiaeth y ''gaucho'' a ystyrir yn arwrgerdd genedlaethol yr Archentwyr ac yn un o glasuron llên yr Ariannin.

Ganwyd ar fferm gwartheg ger San Martín yn nhalaith Buenos Aires. Aeth i'r pampas yn ei arddegau, ac yno dysgodd am fywyd a diwylliant y ''gauchos''. Daeth yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth cefn gwlad, ac ymunodd â'r fyddin yn 19 oed. Ar ôl rhyw pum mlynedd yn rhan o'r brwydrau rhwng y llywodraeth a'r taleithiau, ymddeolodd o'r fyddin ac ymfudodd i Entre Ríos yn 1858. Yno, ymunodd ag ymgyrchoedd chwyldroadol yn erbyn y llywodraeth ganolog, a chafodd hefyd ei brofiad cyntaf o newyddiaduraeth. Ailymunodd â'r fyddin yn 1859 a bu'n ymladd ym mrwydrau Cepeda (1859) a Pavón (1861).

Ymsefydlodd yn Buenos Aires yn 1863, a gweithiodd i'r papur newydd ''El Argentino''. Yn 1869 sefydlodd ''El Río de la Plata'', ond cafodd y papur newydd hwnnw ei wahardd gan yr Arlywydd Domingo Sarmiento, a oedd hefyd yn llenor ac yn wrthwynebydd i Hernández. Brwydrodd Hernández yng ngwrthryfel Ricardo López Jordán yn erbyn Sarmiento, ond bu'n rhaid iddo ffoi i Frasil yn 1871 yn sgil methiant y gwrthryfel hwnnw.

Dychwelodd i Buenos Aires a chyhoeddodd ''El gaucho Martín Fierro'' yn 1872 a'r dilyniant ''La vuelta de Martín Fierro'' yn 1879. Y rheiny yw'r unig farddoniaeth a gyhoeddwyd ganddo. Ysgrifennodd sawl gwaith gwleidyddol ac erthyglau gan gynnwys ''Instrucción del estanciero'' (1881). Fe'i etholwyd yn gynrychiolydd ac yn seneddwr, a chynorthwyodd wrth sefydlu dinas La Plata. Bu farw yn ardal Belgrano, Buenos Aires, yn 51 oed o drawiad ar y galon. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 113 ar gyfer chwilio 'Hernández, José. 1834-1886', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Erthygl
  2. 2
    Erthygl
  3. 3
    Erthygl
  4. 4
    Erthygl
  5. 5
    Erthygl
  6. 6
    Erthygl
  7. 7
    Erthygl
  8. 8
    Erthygl
  9. 9
    Erthygl
  10. 10
    Erthygl
  11. 11
    Erthygl
  12. 12
    Erthygl
  13. 13
    Erthygl
  14. 14
    Erthygl
  15. 15
    Erthygl
  16. 16
    Erthygl
  17. 17
    Erthygl
  18. 18
    Erthygl
  19. 19
    Erthygl
  20. 20
    Erthygl