Eric Hobsbawm

Hanesydd ac awdur Marcsaidd o Loegr oedd Eric John Ernest Hobsbawm (9 Mehefin, 19171 Hydref 2012), a elwir gan amlaf yn "Eric Hobsbawm" neu'n "E. J. Hobsbawm". Ymhlith ei weithiau enwocaf yw ei driawd ar "y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir": ''The Age of Revolution: Europe 1789–1848'', ''The Age of Capital: 1848–1875'', ac ''The Age of Empire: 1875–1914''; a'i lyfr ar "yr ugeinfed ganrif fer", ''The Age of Extremes: The Short Twentieth Century, 1914–1991''.

Cafodd ei eni i deulu Iddewig yn Alecsandria, yr Aifft, ym 1917, a symudodd i Fienna pan oedd yn ddwyflwydd oed. Masnachwr Prydeinig oedd ei dad a llenores Awstriaidd oedd ei fam, a bu farw'r ddau yn ystod y Dirwasgiad Mawr. Ymunodd Eric Hobsbawn â'r Blaid Gomiwnyddol yn 14 oed tra'n byw ym Merlin â'i ewythr. Ymfudodd i Loegr ym 1933 ac aeth i Brifysgol Caergrawnt, lle bu'n gyfaill i Raymond Williams. Penodwyd ef yn ddarlithydd hanes yng Ngholeg Birkbeck ym 1947 a dyrchafwyd yn athro ym 1970. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, ''Interesting Times: A Twentieth Century Life'', yn 2002.

Bu farw ar 1 Hydref 2012 yn y Royal Free Hospital, Llundain, o niwmonia. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 26 ar gyfer chwilio 'Hobsbawm, Eric', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Cit
  2. 2
    gan Hobsbawm, Eric
    Cyhoeddwyd 1971
    Llyfr
  3. 3
    gan Hobsbawm, Eric
    Cyhoeddwyd 1980
    Cit
  4. 4
    Llyfr
  5. 5
    Cit
  6. 6
    Llyfr
  7. 7
    Cit
  8. 8
    Cit
  9. 9
    Cit
  10. 10
    Cit
  11. 11
    Cit
  12. 12
  13. 13
    Cit
  14. 14
  15. 15
    Llyfr
  16. 16
    Llyfr
  17. 17
    Llyfr
  18. 18
  19. 19
  20. 20