Jack the Ripper
alt=Illustrated Police News - Jack the Ripper|bawd|Illustrated Police News - Jack the Ripper Jack the Ripper (Siôn y Rhwygwr) yw'r enw a roddir i lofrudd cyfresol anhysbys a fu'n weithgar yn ystod haf a hydref 1888 yn Whitechapel, ardal ym maestref Tower Hamlets, Lundain a oedd yn hysbys yn ei gyfnod am dlodi, gorboblogi a phuteindra .Y pum ddynes y mae’r mwyafrif o ffynonellau yn gytûn eu bod wedi eu llofruddio gan y Ripper yw
* Mary Ann Nichols - 47 oed (31 Awst) * Annie Chapman - 42 oed (8 Medi) * Elizabeth Stride - 44 oed (30 Medi) * Catharine Eddowes - 46 oed (30 Medi) * Mary Jane Kelly - tua 40 oed (14 Tachwedd)
Cafodd merched eraill eu llofruddio tua’r un pryd gyda rhai yn honni eu bod yn waith y Ripper ac eraill yn anghytuno.
Danfonwyd llythyrau i bapurau newydd a heddlu Llundain yn hawlio cyfrifoldeb ac yn gwawdio’r heddlu am fethu dal y llofrudd. Cafodd y llythyrau eu llofnodi "''Jack the Ripper''", sef sail ei lysenw. Cyfieithodd rhai o bapurau newydd Cymru ei lys enw i ''Siôn (neu Shôn) y Rhwygwr'' Darparwyd gan Wikipedia