Gwyneth Paltrow

Actores a chantores yw Gwyneth Kate Paltrow (ganwyd 27 Medi 1972) o Los Angeles, Califfornia. Yn ferch i Brice Paltrow a Blythe Danner, gadawodd Paltrow ei chwrs prifysgol er mwyn dilyn gyrfa ym myd actio. Dechreuodd ei gyrfa yn perfformio mewn theatrau ym 1990, a chafodd ei rhan gyntaf mewn ffilm y flwyddyn ganlynol. Mae ei ffilmiau cynharaf yn cynnwys y ffilmiau llwyddiannus ''Se7en (1995), Emma'' (1996), lle chwaraeodd y prif ran, a ''Sliding Doors'' (1998). Derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei pherfformiad yn ''Shakespeare in Love'' (1998); enillodd Wobr yr Academi am yr Actores Gorau, Gwobr Golden Globe a dau o wobrau'r Chymdeithas yr Actorion Sgrîn am Brif Actores Eithriadol ac fel aelod o Gast Eithriadol, ynghyd â nifer o wobrau ac enwebiadau eraill.

Parhaodd ei llwyddiant gyda rôlau mewn ffilmiau fel ''The Talented Mr. Ripley'' (1999) a ''Shallow Hal'' (2001). Serennodd hefyd yn y ffilm ''Duets'' (2000), a gynhyrchwyd ac a gyfarwyddwyd gan ei thad Bruce Paltrow. Canodd Gwyneth Paltrow ddwy gân ar y trac sain a bu'r caneuon yn llwyddiannus mewn rhai gwledydd. Derbyniodd enwebiad am Wobr Golden Globe am yr Actores Orau mewn Ffilm am ''Proof'' (2005). Yn fwy diweddar, ymddangosodd yn y ffilm ''Iron Man'' (2008).

Yn aml, mae ei bywyd personol wedi derbyn llawer o sylw gan y wasg; bu'n canlyn â Brad Pitt o 1995 tan 1997, a phriododd Chris Martin, prif leisydd y band roc Seisnig Coldplay, yn 2003. Maent yn rhieni i ddau o blant, Apple Blythe Alison Martin (g. 2004) a Bruce Anthony Martin (g. 2006). Dywedodd Paltrow iddi leihau ei baich gwaith ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf. Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddwyd y byddai'r cwpl yn gwahanu ar ôl bod yn briod am ddeng mlynedd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Paltrow, Gwyneth', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Awduron Eraill: “...Paltrow, Gwyneth...”
    Sleid